Sut i archebu
Archebwch eich parti drwy'r Swyddfa Docynnau neu'r Trefnydd
Gwerthiannau Grŵp, a threfnwch bopeth mewn un alwad ffôn.
Mae ein Trefnydd Gwerthiannau Grŵp, Chris Blackler, yn ei
gwneud hi'n hawdd i chi drefnu ar gyfer criw. Ffoniwch Chris yn
uniongyrchol ar 029 20 878 878 neu e-bostiwch cblackler@cardiff.gov.uk gyda'ch
manylion cyswllt, gan gynnwys eich rhif ffôn yn ystod y dydd. Bydd
Chris yn eich ffonio chi'n ôl wedyn.
Does dim byd yn haws na archebu i griw yn y New
Theatre gyda Chris. Mae hi'n gyfeillgar a chroesawgar dros y ffôn,
ac mae ganddi sgiliau gweinyddol heb eu hail. Mae'n bleser gweithio
gyda hi, ac rwy'n credu ei bod hi'n rhan allweddol o'n tripiau ni.
Mae hi hyd yn oed wedi dod atom i ddweud helo yn ystod yr
egwyl!
Elizabeth Walsh, Culture Vultures
Cyfleusterau gwych i archebu ar gyfer grwpiau.
Dwi heb gael fy siomi erioed wrth dderbyn tocynnau. Dylai cwmnïau
ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i wobrwyo staff, ar gyfer nosweithiau
lletygarwch i gwsmeriaid neu noson allan wych i bawb.
Llongyfarchiadau i staff y New Theatre am wasanaethau o'r radd
flaenaf i gwsmeriaid.
Jan Grossett, Atradius