Datganiad hygyrchedd gwefan ar gyfer y Theatr Newydd
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i:
welsh.newtheatrecardiff.co.uk/
newtheatrecardiff.co.uk
Cyngor Caerdydd sy'n diweddaru'r wefan hon ac fe'i cynhelir gan
John Good Ltd. Darperir elfennau tocynnau'r wefan gan Viva Ticket,
darparwr tocynnau masnachol.
Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech ar hyn o bryd allu:
- Darllen y safle mewn Cymraeg clir
- Llywio rhan o'r safle gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig ar
gyfrifiadur bwrdd Gwaith
- Cyrchu cynnwys gan ddefnyddio darllenydd sgrin - mae'r cynnwys
wedi'i strwythuro gan ddefnyddio penawdau (tagiau H) a phwyntiau
bwled yn ôl yr angen ac mae testun amgen wedi'i ychwanegu at rai
delweddau
- Deall ble bydd hyperddolenni yn mynd â chi cyn i chi glicio
arnynt
- Cael gafael ar fap safle
- Dod o hyd i wybodaeth am sut i gael gafael ar fersiynau hygyrch
o'n llyfrynnau
-
Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl
i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet
gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes
gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Nid yw safle symudol y Theatr Newydd yn cynnwys y wefan gyfan.
Nid yw'r adran mynediad wedi'i chynnwys ar yr adrannau sy'n
ymddangos yn y wedd symudol. Os ydych yn defnyddio eich ffôn i fynd
at y safle a llywio o'i chwmpas, efallai na fyddwch yn gallu cael
gafael ar rywfaint o gynnwys. ( Maen prawf llwyddiant 1.3.4 )
- Nid yw cwymplenni'r safle yn gweithio wrth ddefnyddio
bysellfwrdd. Mae ffocws y bysellfwrdd yno ond mae'n diflannu pan
fydd yn mynd drwy'r cwymplenni nad ydynt yn ymddangos ar y dudalen,
oni bai eich bod yn hofran llygoden drostynt. Gall hyn olygu ei bod
yn llawer anoddach llywio o amgylch y wefan os nad ydych yn
defnyddio llygoden. ( Maen prawf llwyddiant 2.1.1 )
- Does dim dewis i neidio drwy benynnau na throedynnau'r
tudalennau, na thrwy'r botymau ar frig y wefan i gynnwys y brif
dudalen. Dylai'r opsiwn hwn ymddangos pan fyddwch yn tabio - bydd
yn rhaid i unrhyw ddefnyddiwr bysellfwrdd yn unig dabio drwy'r
ddewislen bob tro, dim ond i gael mynediad at eich cynnwys. Os
ydych yn ddefnyddiwr â nam ar eich golwg, efallai y bydd yn rhaid i
chi glywed y ddewislen yn cael ei darllen ar bob tudalen (
Maen prawf llwyddiant 2.4.1 )
- Mae'r testun yn fach iawn mewn rhai mannau, gan ei gwneud yn
anodd iawn i rywun sydd â golwg gwan i ddarllen. ( Maen prawf
llwyddiant 1.4.4 )
- Ceir un enghraifft o ffurflen sy'n PDF ar hyn o bryd, sy'n
golygu efallai na fyddwch yn gallu llenwi'r ffurflen os ydych yn
defnyddio darllenydd sgrin i gyrchu'r cynnwys. Lle y bo'n bosibl,
rydym wedi tynnu sylw at ffyrdd amgen o gysylltu â ni gyda'r
wybodaeth hon neu i gael gwybod mwy am ei derbyn mewn fformat
hygyrch. ( Maen prawf llwyddiant 4.1.2 )
- Dim ond pan fyddwch chi'n hofran drostynt y mae manylion am y
sedd rydych chi'n edrych arno ar gael. Os ydych yn defnyddio
darllenydd sgrin i fynd i'r safle, neu heb ddefnyddio bysellfwrdd,
efallai na fyddwch yn gallu cael gafael ar y wybodaeth hon. ( Maen
prawf llwyddiant 1.1.1 )
- Mae peth testun a labeli ffurflen ar goll - os ydych yn
defnyddio darllenydd sgrin a/neu'n llywio gan ddefnyddio'r
swyddogaeth tabiau, efallai nad yw'n glir pa wybodaeth y mae pob
maes ffurflen yn gofyn i chi ei darparu. ( Maen prawf llwyddiant
1.1.1 )
- Does dim modd darllen y botwm Archebu Tocynnau drwy gyfrwng
technoleg lleferydd Apple, sy'n golygu efallai na fyddwch yn gallu
defnyddio'r botwm hwn i lywio os ydych yn dibynnu ar y swyddogaeth
hon.
- Mae rhywfaint o destun amgen ar goll o rai delweddau. Os ydych
chi'n defnyddio darllenydd sgrin i gyrchu'r cynnwys hwn, efallai na
fyddwch yn gallu cael gafael ar unrhyw wybodaeth sydd yn y
delweddau. ( Maen prawf llwyddiant 1.1.1 )
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat
gwahanol fel print bras, recordiad
sain neu Braille:
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch mewn tri
diwrnod gwaith.
Adrodd problemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os
canfyddwch unrhyw broblemau nad
ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad
ydym yn bodloni gofynion
hygyrchedd, cysylltwch â NTMailings@caerdydd.gov.uk
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am
orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a
Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os
nad ydych yn hapus gyda'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn,
cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori
a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) .
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol
Rydym yn darparu gwasanaeth trosglwyddo testun i bobl sy'n
fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â rhwystr lleferydd.
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni clyw, neu os byddwch yn cysylltu
â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion
Prydain (BSL).
Dewch o hyd i fanylion am sut i gysylltu â ni ar ein hafan
. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am berfformiadau â chymorth,
technoleg gynorthwyol a ffyrdd eraill o gysylltu â ni ar ein
hadran Mynediad .
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn
unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a
Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau
Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 Safon AA, oherwydd y diffyg
cydymffurfiadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir yn yr adran 'Pa mor hygyrch yw'r
wefan?' yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
Ym mis Ebrill 2020 trefnodd Cyngor Caerdydd i'r Theatr Newydd
gael ei rheoli a'i gweithredu gan HQ Venues (gweithredwr masnachol
annibynnol). Byddai hyn wedi golygu bod y wefan bresennol wedi cael
ei disodli gan wefan newydd yn cael ei chynnal gan HQ Venues. O
ganlyniad, ni chafodd gwefan y Theatr Newydd ei diweddaru i fodloni
rheoliadau hygyrchedd.
Mae llawer o'r diweddariadau sydd eu hangen yn ddiweddariadau
datblygiadol, a fyddai'n gofyn am fewnbwn â thâl gan asiantaeth
datblygu'r wefan, John Good - asiantaeth ar gontract allanol, yn
hytrach na thîm datblygu gwe mewnol.
O ganlyniad uniongyrchol i bandemig Covid 19 a'r cyfnod cloi
dilynol a ddechreuodd ym mis Mawrth 2020, ni chymerodd HQ Venues y
gwaith o reoli'r Theatr Newydd o'r newydd yn ôl y bwriad.
Penderfyniad munud olaf oedd hwn. Fodd bynnag, mae cynlluniau ar
waith i hyn ddigwydd yn gynnar yn 2021. Caiff y wefan ei
hailddatblygu fel rhan o'r broses hon. Noder hefyd bod John
Good
wedi rhoi ei holl staff ar ffyrlo ar ddechrau pandemig Covid
19.
Methiant i gydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Yn ystod y cyfnod cloi drwy gydol 2020 mae'r tîm marchnata
mewnol yn y Theatr Newydd wedi gweithio'n galed i ddiweddaru
cynnwys y wefan er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â
chymaint
o'r rheoliadau hygyrchedd â phosibl, heb roi gwaith ar gontract
allanol i'r asiantaeth datblygu allanol. Er gwaethaf y gwaith hwn,
ni fu'n bosibl gwneud llawer o'r diweddariadau technegol sydd eu
hangen i sicrhau cydymffurfiaeth.
Mae Cyngor Caerdydd ar hyn o bryd ynghanol y broses gaffael o
ddatblygu gwefan y Theatr Newydd er mwyn sicrhau y bydd yn
cydymffurfio'n llawn â dyfeisiau bwrdd gwaith a symudol. Byddwn yn
sicrhau bod cynnwys ac ymarferoldeb yn cael eu profi gan
ddefnyddwyr sy'n defnyddio technolegau cynorthwyol i sicrhau bod
anghenion ein defnyddiwr yn cael eu diwallu mor llawn â
phosibl.
Ein nod yw lansio'r fersiwn newydd, hygyrch o wefan y Theatr
Newydd yn 2021, oni bai bod y Theatr yn cael ei rheoli gan HQ
Venues, ac ar yr adeg honno bydd y wefan yn cael ei rhedeg a'i
rheoli gan HQ.
Offer a thrafodion rhyngweithiol
Mae'n anodd llywio drwy rai o'n ffurflenni rhyngweithiol gan
ddefnyddio bysellfwrdd yn unig Er enghraifft, oherwydd nad oes
tagiau 'label' ar rai rheolaethau ar ffurflenni.
Mae ein ffurflenni'n cael eu hadeiladu a'u cynnal drwy
feddalwedd trydydd parti a'u gwneud i edrych fel ein gwefan. Mae
hyn yn cynnwys ein cyflenwr meddalwedd tocynnau.
Rydym wedi asesu'r gost o ddatrys y problemau gyda llywio a
chyrchu gwybodaeth, a chydag offer a thrafodion rhyngweithiol.
Credwn y byddai gwneud hynny'n awr yn faich anghymesur
o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn gwneud
asesiad arall pan fydd y contract cyflenwi yn barod i'w adnewyddu,
sy'n debygol o fod yng Ngaeaf 2020.
Dogfennau PDF ac eraill
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein
gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sydd â
gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, a
ffurflenni ar ffurf Word. Erbyn mis Tachwedd 2020, rydym yn bwriadu
naill ai trwsio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu
lle.
Fideo byw:
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw
oherwydd bod fideo byw wedi'I eithrio rhag bodloni'r
rheoliadau hygyrchedd .
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn Paratowyd y datganiad hwn ar
23 Medi 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 23 Medi 2020.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 10 Gorffennaf 2020.
Cynhaliwyd y prawf yn fewnol. Profwyd pob tudalen o'r wefan, yn
hytrach na detholiad sampl.