Gallwch hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth drwy ffôn-negesu 079
6722 2087 neu finicom 02920 87 2085.
Tacsis
Gall cwsmeriaid anabl wneud cais am dacsi yn swyddfa Reoli Blaen y
Tŷ ar y llawr gwaelod.
Mynd o gwmpas y theatr
Mae tair lefel i'r awditoriwm:
• Standiau
• Cylch
• Cylch Uchaf
Gall ein staff gynnig cyngor wrth archebu ac wrth gyrraedd i
hwyluso'ch ymweliad.
Mae dau risiau'n cyrraedd pob llawr. Mae carped ar bob llawr
heblaw am y fynedfa, sydd â llawr pren.
Lifft teithwyr
Mae gennym lifft pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid sydd ei angen. Mae
lle ynddo i gadeiriau olwyn o bob math, ar yr amod nad
ydynt yn fwy na 840mm o led gan 1150mm o hyd.
Fodd bynnag, os bydd rhaid gadael yr adeilad ar frys dim ond hyn a
hyn o le sydd ar gael yn y lifft.
Mae'n bwysig eich bod yn siarad ag aelod o'r Swyddfa Docynnau wrth
archebu eich tocynnau os ydych eisiau defnyddio'r lifft.
Mae hefyd yn bosibl i gwsmeriaid sydd ond yn gallu dringo ychydig o
risiau i ddefnyddio'r lift, cyn belled eu bod nhw'n gwneud
trefniadau o flaen llaw gyda staff y Theatr Newydd wrth archebu
tocynnau.
Os hoffech roi cynnig ar ein lifft cyn eich ymweliad, cysylltwch â
ni i drefnu apwyntiad..
Defnyddio'r Lifft
Ewch i'r lifft drwy DDRWS B ym mar y Standiau a rhowch wybod i'r
aelod o staff sy'n gofyn am docynnau fod angen i chi
ddefnyddio'r lifft. Bydd aelod arall o staff yna'n dod yn y lifft
gyda chi i fynd â chi i'r lefel ofynnol.
Dim ond staff y Theatr Newydd all weithredu'r lifft. Os ydych yn
bwriadu ei defnyddio, cyrhaeddwch yn gynnar, gan y gallai fod
ciw bach.
Standiau - llawr gwaelod - DRYSAU A a B
Ar y lefel hon, mae bar, y swyddfa docynnau, man gwerthu a thai
bach hygyrch.
Mae gan ardal y Standiau fynediad gwastad gyda phedair gris i'r
seddi o DDRWS B (yr agosaf at y Swyddfa Docynnau) neu
saith ris fas i'r seddi agosaf at y llwyfan o DDRWS A, ger y man
gwerthu.
Yng nghefn y Standiau mae pum lle i ddefnyddwyr cadair olwyn ar
res V - y rhes bellach o'r llwyfan a'r agosaf at y fynedfa
(drwy DDRWS B). Mae'r rhain yn addas i ddefnyddwyr o bob math o
gadeiriau olwyn. Mae'r mannau cadair olwyn hyn yn rhes
V.
Oherwydd bod y Cylch yn bargodio drosto, ni fydd rhan uchaf y
llwyfan yn weladwy o res V.
Mae gan DDRWS A hefyd lifft cadair olwyn i seddi'r Standiau blaen
i ddefnyddwyr cadair olwyn sydd wedi cadw un o'r ddau fan
dynodedig hyn ar flaen yr awditoriwm.
Maen nhw ar gael i gwsmeriaid a all symud, gyda chymorth neu
hebddo, i gadair olwyn all ddringo grisiau os bydd angen
gadael yr adeilad.
Mae'r rhain ond yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
amheiriannol. Gallwn roi'r rhain i gwsmeriaid sy'n dod mewn
cadeiriau
olwyn trydanol sydd wedi cadw'r llefydd hyn. Siaradwch â'r Swyddfa
Docynnau am eich gofynion.
Bydd angen i gwsmeriaid sydd heb gadw un o'r mannau cadair olwyn
hyn ddefnyddio'r grisiau.
Os ydych chi'n ddefnyddiwr cadair olwyn a fyddai'n well gennych
symud i un o'n seddi arfer i wylio'r sioe, ffoniwch swyddfa
Blaen y Tŷ ar 029 2087 8790 cyn archebu.
O DDRWS A, unwaith y byddwch yn yr awditoriwm, mae mynediad
gwastad i bob rhes heblaw am res V.
Cylch - llawr cyntaf - DRYSAU C a D
Mae'r grisiau cylchol canolog o flaen y Swyddfa Docynnau (llawr
gwaelod) yn arwain at DDRYSAU C a D mewn 20 gris. Mae
13 gris ar y grisiau yn y cefn ger swyddfa reoli Blaen y Tŷ (llawr
gwaelod).
Mae canllawiau ar y grisiau. Ar y llawr cyntaf mae bar, cyntedd,
ardaloedd eistedd a thai bach. Ond, mae'r unig dŷ bach cwbl
hygyrch ar y llawr gwaelod.
Mae hefyd lifft teithwyr ar gael i fynd i'r ardal seddi hon
(darllenwch y wybodaeth lifft teithwyr uchod. Seddi 17 ac uwch
yw'r
rhain agosaf i'r lifft ei hun.
I rai cwsmeriaid gallai fod yn haws mynd i'r Cylch cefn drwy DDRWS
E ar y lefel nesaf. Os yw DRWS E wedi'i brintio ar eich
tocyn, siaradwch ag aelod o staff a all eich cynorthwyo.
Gallwch gyrraedd pob sedd Cylch ar risiau yn yr awditoriwm. Mae
gan y rhesi sydd agosaf at y llwyfan lai o risiau o DDRYSAU
C a D.
DRWS C
Defnyddiwch y drws wrth y Bar Cylch (chwe gris i lawr i lefel yr
awditoriwm) neu'r grisiau cefn wrth swyddfa reoli Blaen y Tŷ ar
y
llawr gwaelod (13 gris).
DRWS D
Defnyddiwch y drws sydd o flaen y grisiau cylchol ar lefel y
Cylch. Mae grisiau i bob drws i'r awditoriwm.
Gallwch hefyd gyrraedd Rhesi G i M drwy'r grisiau cylchol drwy
DDRWS E ar lefel y Cylch Uchaf - sydd 20 gris ychwanegol o
lefel y Cylch. Ni argymhellir i bobl â phroblemau symud eu
defnyddio.
Mae gennym un lle cadair olwyn yn rhes M, y gallwch fynd ato
drwy'r lifft teithwyr.
Cylch Uchaf - ail lawr
Gallwch gyrraedd y Cylch Uchaf mewn 40 gris i fyny'r prif risiau
cylchol ar y llawr gwaelod a thrwy'r lifft teithwyr (darllenwch
y
dudalen wybodaeth) **Link to passenger lift page** Mae hefyd far,
ardal eistedd, tai bach a man gwerthu'n yr ardal hon.
Nid yw'r tai bach ar y lefel hon yn gwbl hygyrch. Ond, mae tŷ bach
hygyrch ar y llawr gwaelod.
I gyrraedd DRWS F, wrth far y Cylch Uchaf, mae tair gris
arall.
Mae seddi rhif 18 ac uwch agosaf at y lifft teithwyr. Rhwng y
lifft a'r holl seddi mae tua 25 cam, gan gynnwys tair gris i fyny
a
dwy gris i lawr.
Mae canllawiau ar y ddwy set o risiau i fyny i ardal eistedd y
Cylch Uchaf. Rhaid dringo mwy o risiau i B-F.
Bocsys
I gyrraedd Bocsys B ac C, cymerwch y grisiau gyferbyn â swyddfa
reoli Blaen y Tŷ wrth y man gwerthu, yng nghefn y cyntedd
a'r pum gris i lawr i fynedfa'r awditoriwm.
I gyrraedd Bocsys D ac E defnyddiwch DDRWS F i fynd i far y Cylch
Uchaf Mae yna 14 gris i lawr.
I gyrraedd Bocsys G a H ewch i fyny'r grisiau cylchol a
defnyddiwch y fynedfa o'ch blaen ar lefel y Cylch (DRWS D).
Dilynwch y
coridor hir nes i chi gyrraedd y fynedfa briodol (11 gris ar y
llwybr hwn ar lefel y Cylch).
Mae lle i ddefnyddiwr cadair olwyn ym Mocsys G ac H a gallwch eu
cyrraedd gyda'r lifft teithwyr. Nodwch y gall cadair olwyn yn
y naill Focs gyfyngu ar le i ddefnyddwyr eraill y Bocs. Rhowch
wybod i'r Swyddfa Docynnau wrth gadw lle a oes angen
mynediad i ddefnyddiwr cadair olwyn i un o'r Bocsys hyn.
I gyrraedd Bocsys I a J cymerwch y fynedfa wrth y grisiau cylchol
o gyntedd y Cylch Uchaf (DRWS E).