Gwirfoddoli yn theatr fwyaf hanesyddol
Caerdydd
Mae ein cynllun gwirfoddoli yn cynnig cyfleoedd
i gefnogi'r Theatr Newydd hanesyddol - un o'r hynaf yng
Nghymru.
Gallwch gymryd cipolwg y tu ôl i'r llenni a
chwarae rhan weithredol yn y sin gelfyddydol yng
Nghaerdydd.
Rhaid i'r rhai sy'n cymryd rhan fod dros 18 oed
a gofynnir iddynt gofrestru ar gyfer ymrwymiad gofynnol o chwe mis,
gan gymryd 3 - 5 sifft y mis yn y Theatr Newydd. Rydym hefyd
yn cynnig cyfleoedd i gynnal ein teithiau ymwelwyr a helpu mewn
rhannau eraill o'r theatr.
Byddwch yn derbyn hyfforddiant fel gwirfoddolwyr
blaen tŷ, gan ennill profiad gwerthfawr o wasanaethau cwsmeriaid ac
iechyd a diogelwch lleoliadau.
Bydd cynigion arbennig gwirfoddolwyr a staff ar
gael i wirfoddolwyr.
Mae pecynnau
cais a mwy o wybodaeth ar gael nawr i'w lawrlwytho.