Diweddariad: 4 Mawrth 2021
Diolch am eich amynedd. Rydym wedi bod yn gweithio mor gyflym ag
y gallwn gyda'n cynhyrchwyr a'n hyrwyddwyr newydd, i aildrefnu
cynyrchiadau a rhoi ad-daliadau am berfformiadau a ganslwyd.
Mae'r cynyrchiadau canlynol wedi'u canslo:
- Jim Davidson
- QuizAllThatJazz21
- Some Guys Have All the Luck
- Craig Revel Horwood - The All Balls and Glitter
Tour
- Courtney Act: FLUID
Ar gyfer y cynyrchiadau uchod, rydym wedi e-bostio cwsmeriaid
(pan fydd gennym eich manylion cyswllt a'ch caniatâd i'ch
e-bostio). Ar hyn o bryd rydym yn prosesu ad-daliadau i gwsmeriaid
a dalodd gyda cherdyn credyd/debyd yn awtomatig - nid oes rhaid i
chi wneud unrhyw beth. Os taloch gydag arian parod neu gyda
thalebau theatr, neu os yw eich cerdyn talu bellach wedi dod i ben,
cysylltwch â'n Swyddfa Docynnau ar 07925 659065 (Dydd Llun i Ddydd
Gwener 0930-1600) i drafod eich opsiynau o ran ad-daliad.
Cafodd y cynyrchiadau canlynol eu haildrefnu i ddyddiadau
newydd
- Mike Doyle - Rocking with Laughter ... Again - 24 -25 Mai
2021
- Groan Ups - 31st Mai - 5th Mehefin 2021
- The Addams Family - 20 - 24 Gorffennaf 2020
- Islands in the Stream - 2nd Medi 2021
- Ceri Dupree: A Star is Torn - 3rd and 4th Medi 2021
- A Beautiful Noise - Sul 5 Medi 2021
- Buble Meets Sinatra - Sunday 3rd Hydref 2021
- John Grant - Mawrth 5th Hydref 2021
- Joe Brown - Sunday 10th Hydref 2021
- The Syd Lawrence Orchestra - Sul 17 Hydref 2021
- Thunder Girls -19th - 23rd Hydref 2021
- Dial M for Murder - 2 - 6 Tachwedd 2021
- Joel Dommett: Unapologetic (If that's ok?) - Sunday 21
Tachwedd 2021
- PANTO - Aladdin 4th Rhagfyr 2021 - 2 Ion 2022
- Rocky Horror Show - 7 - 12 Chwefror 2022
- One Night in Dublin - Sul 6th Mawrth 2022
- Menopause Musical 2 , 16th - 9th Mawrth 2022
- Andy Fairweather Low & The Low Riders feat The
Hi Riders Soul Revue- Sul 10th Ebrill 2022
- The Da Vinci Code - 28 Mehefin 2022 - 2 Gorffennaf 2022
- The Osmonds - A New Musical - 4 - 8 Hydref 2022
- Mamma Mia - 9 - 27 Chwefror 2023
Ar gyfer cynyrchiadau a gafodd eu haildrefnu nid oes rhaid i chi
wneud unrhyw beth. Bydd eich tocynnau'n ddilys ar gyfer dyddiadau
newydd y perfformiadau a byddwn yn eich e-bostio chi pn fyddwn yn
ailagor er mwyn cadarnhau'r dyddiad a aildrefnwyd.
Ar gyfer cyfresi wythnos, bydd eich tocyn yn ddilys ar gyfer yr
un perfformiad/sedd - os oes gennych docyn ar hyn o bryd i'r nos
Wener, bydd hyn yn ddilys ar gyfer y nos Wener yn ystod y gyfres a
aildrefnwyd.
Peidiwch â chysylltu â ni ar hyn o bryd oherwydd ein bod yn
gweithio gyda llai o staff ac rydym yn brysur yn gwneud ad-daliadau
i gwsmeriaid ac yn aildrefnu perfformiadau.
GWYBODAETH BWYSIG ARALL
Os nad yw'r cynhyrchiad rydych chi wedi prynu tocyn ar ei gyfer
wedi'i restru uchod, yna mae'r perfformiad hwnnw yn mynd ymlaen.
Mae hyn yn newid trwy'r amser felly gwiriwch yma'n rheolaidd - nid
oes angen i chi gysylltu â ni.
Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon cyn gynted ag y bydd gennym
ragor o wybodaeth. Hefyd gallwch ffonio ein Swyddfa Docynnau ar ein
rhif dros dro 07925 659065 (Dydd Llun i Ddydd Gwener
09:30 - 16:00). Nodwch: ni allwn ymateb i negeseuon testun na
negeseuon voicemail ar y rhif hwn.
Gweinyddwr / Drws Llwyfan
Ffoniwch ein rhif dros dro ar 07367 629234 i
gysylltu â rhaglenni, marchnata ac ymholiadau ar wahân i docynnau.
Ni allwn dderbyn ymholiadau swyddfa docynnau na gwerthu
tocynnau ar y rhif hwn