Celwyddau. Trachwant. Twyll. Busnes fel arfer.
Ar ôl gwerthu pob tocyn yn y West End, gan wefreiddio'r
beirniaid a'r gynulleidfa fel ei gilydd, mae Glengarry Glen
Ross yn dod i Gaerdydd.
A hwythau benben â'i gilydd ym myd busnes, fe wnaiff
pedwar gwerthwr taer o Chicago unrhyw beth, cyfreithlon neu beidio,
i werthu'r mwyaf o dai. Wrth i amser a lwc redeg mas, mae'r
neges yn syml: seilio'r fargen ac fe gewch chi Cadillac; methu ac
mae ar ben arnoch chi.
Yr actorion teledu a llwyfan o fri Nigel
Harman a Mark Benton sy'n serennu yn yr
adfywiad difyr, deifiol a thywyll hwn o gampwaith David
Mamet sydd wedi ennill sawl gwobr.
Does dim dal y bydd pob pris ar
gael.