Exterior of the New Theatre

Lle Rydyn Ni

New Theatre, Heol y Parc,
Caerdydd, CF10 3LN

Mae'r New Theatre wedi'i lleoli ar Heol y Parc yng nghanol dinas Caerdydd, ger adeiladau hardd y Ganolfan Ddinesig.

Cliciwch yma i lawrlwytho map (fformat pdf; agor mewn ffenestr newydd).

Sylwch y bydd angen cyswllt Adobe Acrobat Reader (agor mewn ffenestr newydd)am ddim er mwyn gweld y dadlwythiad hwn.

Cliciwch yma am fap Multimap o Gaerdydd (agor mewn ffenestr newydd)

 

Parcio

Mae lleoedd parcio am ddim ar y strydoedd o amgylch Neuadd y Ddinas o 6.00pm ymlaen nos Lun i nos Sadwrn, ac ar ôl 5.00pm nos Sul. Mae gwasanaeth parcio a theithio i ganol y ddinas yn ystod y dydd ar benwythnosau, gyda mannau codi a gollwng cyfleus ger Neuadd y Sir a Heol y Goron (oddi ar Heol y Gogledd). 
Am amseroedd a phrisiau cliciwch yma.

Tacsis

Mae safle tacsis gyferbyn â Gwesty'r Parc dros y ffordd i brif fynedfa'r theatr.

Trenau

Yr orsaf drenau agosaf yw Heol y Frenhines (rhyw bum munud ar droed). Cliciwch yma am wybodaeth amserlen. (agor mewn ffenestr newydd)

Bysiau

Mae man disgyn ar gyfer mynychwyr theatr sy'n cyrraedd mewn bws moethus ar gael ar Heol y Brodyr Llwydion. Gellir cael map yn rhoi manylion pwyntiau parcio bysys moethus yn y ddinas trwy ffonio 029 2087 3253, neu ymwelwch â'u gwefan (agor mewn ffenestr newydd).

Bysys

Mae'r New Theatre ar lywbr nifer o fysys trwy ganol y ddinas. Ffoniwch Bws Caerdydd ar 0870 608 2 608 am fanylion pellach (codir tâl galwad ffôn genedlaethol), neu ymwelwch â'u gwefan (agor mewn ffenestr newydd).

Nid yw'r New Theatre Caerdydd yn gyfrirol am gynnwys gwefan unrhyw drydydd parti.