Sut i Archebu

Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889
Bydd y Swyddfa Docynnau yn rhoi'r holl gymorth sydd ei angen arnoch o 10.00am i 8.00pm (6.00pm os nad oes perfformiad gyda'r nos) o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Archebwch yn bersonol

Archebwch yn bersonol yn y New Theatre neu Neuadd Dewi Sant.

 

Ffoniwch ni

Cewch eich cysylltu yn y drefn y bydd y galwadau'n cael eu derbyn cyn gynted ag y bydd staff ar gael naill ai yn y New Theatre neu Neuadd Dewi Sant.

Gwerthiant y Swyddfa Docynnau 029 2087 8889

Gwybodaeth wedi'i Recordio 029 2087 8890

Minicom y Swyddfa Docynnau 029 2087 8881
Ffôn testun ar gyfer cwsmeriaid sydd â nam ar eu clyw yn unig

Minicom yr Adran Weinyddu 029 2087 8789
Ffôn testun ar gyfer cwsmeriaid sydd â nam ar eu clyw yn unig. Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm

Gwerthiant y Swyddfa Docynnau trwy Ffacs 029 2087 8879

 

Archebu Ar-lein

Gallwch archebu tocynnau ar-lein nawr - 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos drwy ein Swyddfa Docynnau ddiogel ar-lein.

  • Efallai na fydd rhai seddi neu brisiau gostyngol a hysbysebwyd ar gael ar-lein am resymau technegol.
  • Codir tal archebu bychan ychwanegol bob tro.
  • O bwyso'r botwm ARCHEBWCH EICH TOCYNNAU NAWR, bydd ein Swyddfa Docynnau ar-lein yn agor mewn ffenestr newydd. Os nad yw hyn yn gweithio, gofalwch bod eich gosodiadau naidlen yn iawn neu gludwch yr URL canlynol yn eich porwr: https://www.newtheatre.caerdydd.gov.uk/
     

 

 

 



 

Taliadau

  • Gellir talu mewn arian parod neu gyda siec, yn daladwy i Gyngor Caerdydd.
  • Rydym yn croesawu taliad gyda Mastercard, Visa, Delta a Switch. Rhaid rhoi'r dyddiad y daw'r cerdyn i ben a chyfeiriad deiliad y cerdyn.
  • Mae nifer o fynychwyr y theatr yn gweld ein Cynllun Talu Hwyr yn ddefnyddiol iawn. Mae'n caniatáu i chi brynu'r holl docynnau sydd eu hangen arnoch tra bod dewis da o seddau o bob pris yn dal ar gael. Gwneir taliadau mewn pedwar cyfrandaliad. Dylai cyfanswm eich archeb fod yn £75.00 o leiaf.
  • Mae'r holl brisiau yn cynnwys TAW ar gyfradd o 17.5%.

Gostyngiadau

  • Mae gostyngiadau ar gael yn aml. Rhoddir manylion ar baneli prisiau pob sioe.
  • Holwch am ostyngiadau wrth i chi brynu’ch tocynnau gan na allwn eu rhoi i chi wedyn.
  • Mae gan y New Theatre yr hawl i newid neu atal unrhyw ostyngiadau neu gynigion arbennig heb rybudd.

Gostyngiadau ar gyfer Plant

  • Gan fod GOSTYNGIADAU AR GYFER PLANT yn cael eu cynnig i bobl ifanc o unrhyw oed os ydynt yn dal i fod yn yr ysgol, ni ddylid cymryd yn ganiataol os oes gostyngiad bod y sioe yn addas ar gyfer grwpiau o bob oed. Bydd y Swyddfa Docynnau yn barod i'ch cynghori cyn i chi archebu.

Ad-daliadau a Newidiadau

  • Mae'r New Theatre yn gwerthfawrogi ymrwymiad mynychwyr y theatr pan fyddant yn archebu'n gynnar ac yn cydnabod bod argyfwng weithiau yn atal pobl rhag mynychu.
  • Gellir cyfnewid tocynnau ar gyfer diwrnodau eraill am yr un pris (neu bris uwch wrth dalu'r gwahaniaeth). Rhaid i'r Swyddfa Docynnau dderbyn y tocynnau hyn yn ôl o leiaf 48 awr cyn y perfformiad gwreiddiol. Codir tâl o £1 y tocyn (hyd at uchafswm o £5) am y gwasanaeth hwn.
  • Mae'n bosibl hefyd cynnig tocynnau ar gyfer eu hailwerthu ar y ddealltwriaeth bydd holl docynnau'r theatr yn cael eu gwerthu yn gyntaf ac na ellir sicrhau y bydd tocynnau'n cael eu hailwerthu. Ni allwn ailwerthu tocynnau os na fydd y tocynnau gwreiddiol wedi cael eu dychwelyd i'r Swyddfa Docynnau yn gyntaf. Cedwir gwerth 10% o werth unrhyw ailwerthiant am y gwasanaeth hwn.
  • Heblaw am y ddau wasanaeth hwn neu fod perfformiad yn cael ei ohirio, ni wneir ad-daliad ar ôl i'r tocynnau gael eu prynu.


Mae'r New Theatre yn eiddo i, ac wedi'i rheoli a'i hariannu gan Gyngor Caerdydd.

Tocynnau Wrth Gefn

  • Ar gyfer y rhan fwyaf o sioeau ar nos Lun a nos Fawrth a Matinee ganol wythnos, gellir prynu tocynnau sydd heb eu gwerthu o 10am ar ddiwrnod y perfformiad gan bobl dros 60 oed a'r rhai sy'n anabl; o 6pm (12.30pm ar gyfer matinee) gan fyfyrwyr, pobl ddi-waith, hawlwyr a Deiliaid Cerdyn MAX.
  • Un sedd i bob cais (ac un cydymaith i bobl anabl) am yr un pris â seddi’r Cylch Uchaf – i’w archebu drwy’r Swyddfa Docynnau yn unig.
  • Gall plant gael gostyngiad wrth gefn hefyd os ydynt yng nghwmni oedolyn cymwys.
  • Efallai y gofynnir am brawf o statws y prynwr.
  • Mae gan y New Theatre yr hawl i atal y Cynllun Wrth Gefn heb rybudd.

Y Cylch Uchaf

  • Mae seddi'r Cylch Uchaf yn gyfyngedig o ran lle i goesau pobl oddeutu 6' neu dalach. Nid ydynt chwaith yn addas i bobl â phroblemau gyda'u cefn neu sy'n cael trafferth gyda grisiau.
  • Siaradwch â staff y Swyddfa Docynnau i drafod seddi gwahanol.

Bocsys

  • Mae bocsys yn drwyddedig i ddal 6 o bobl ar y mwyaf ond argymhellir y dylid cyfyngo'r nifer i 4 er mwyn bod yn gyfforddus.
  • Fe'ch rhybuddir mai dim ond rhan o'r llwyfan welwch chi o'r ochr weithiau.

Cynllun Eistedd

Seating Plan

Edrych ar y cynllun eistedd (agor mewn ffenestr newydd)

Ladwrlwytho cynllun eistedd y gellir ei argraffu (fformat pdf; agor mewn ffenestr newydd)

Acrobat Reader (agor mewn ffenestr newydd) er mwyn edrych ar y cynllun.