- Hafan
- Yn Ymddangos Nawr
- Beth Sy' Mlaen
- Sut i Archebu
- Ymunwch â’n Rhestr Bostio
- Ynglŷn â’r New Theatre
- Cymryd rhan
- Mynediad
“God bless this house.
May it be the nurse, the feeder
And the moulder of the Soul of Cardiff.
”
Geiriau Mr Herbert Beerbohm Tree ar ôl y perfformiad agoriadol ym mis Rhagfyr 1906.
1825 Theatr gyntaf Caerdydd – mewn llofft stabal!
1826 Adeiladu’r Old Theatre Royal yn Crockherbtown.
1877 Yr hen Theatre Royal yn llosgi i’r llawr.
1878 Theatre Royal ‘newydd’ yn agor yn Wood Street.
1898 Robert Redford yn dod yn rheolwr y Theatre Royal.
1904 Redford yn comisiynu'r penseiri theatrau Runtz a Ford i gynllunio’r New Theatre.
1906 29 Mawrth: Grace Redford yn gosod carreg sylfaen y New Theatre.
10 Rhagfyr: llwyfannu’r perfformiad cyntaf -Twelfth Night William Shakespeare - yng nghwmni Mr Herbert Beerbohm Tree, ac yna pantomeim cynta’r theatr, Red Riding Hood.
Dyma ddisgrifiad o’r theatr ar y pryd:
Adeilad brics a charreg Bath. Seddi ar gyfer 1,570 o bobl. Mae tu blaen yr adeilad yn wynebu’r de-ddwyrain; gyda charreg Bath ar y rhan isaf a dau dŵr ar y brig, sy’n cael eu defnyddio at ddibenion awyru, ac sy’n codi bron i 50 troedfedd uwchlaw’r pafin…
Y tu mewn, mae carpedi chwaethus ar y coridor a’r grisiau, llenni wrth y fynedfa; a chanllawiau pres o boptu. Mae bar salŵn ar bob llawr; a rhai’r cylch a’r seddi blaen wedi’u hardduno’n gain…a dylid cyfeirio’n arbennig at far seddau’r cylch sydd yn union uwchben yr ystafell ymgynnull ac fel honno’n grwn o ran siâp. Yma, ceir murlun o liwiau aur a hufen chwaethus dros ben. Mae seddau’r cylch, y gerddorfa a’r balconi oll yn cynnwys seddi melfed rhuddgoch cyfforddus, sy’n plygu.
Dyma un o lwyfannau mwya’r wlad, sy’n mesur 76 troedfedd o led a 54 troedfedd o ddyfnder, a 57 troedfedd o uchder at y pwlïau. Dim ond mewn tair neu bedair o theatrau gorau Llundain y cewch chi lwyfan mwy o faint…Mae’r 17 o ystafelloedd gwisgo yn cynnwys dŵr oer a phoeth, golau trydan, nwy ac ati…
1907 Y perfformiad cyntaf gan gwmni amatur, The Yeomen of the Guard gan y Cardiff Operatic Society.
1908 Yr actores enwog Sarah Bernhardt yn cymryd rhan mewn un perfformiad matinée ar 17 Mehefin.
1912 Aelodau cwmni bale Rwsia yn dawnsio yma, gan gynnwys yr enwog Anna Pavlova. Y criw’n mwynhau cymaint fel eu bod yn dychwelyd i Gaerdydd flwyddyn yn ddiweddarach.
1913 Ceffylau, camelod o chast o 100 yn camu i’r llwyfan yng nghynhyrchiad Drury Lane o Ben Hur.
1917 Dangos y ffilm gyntaf yn y New Theatre, sef y ffilm hynod boblogaidd Birth of a Nation gan D W Griffiths — ffilm fud wrth gwrs, ond i gyfeiliant cerddorfa fyw.
1923 Jelly Roll Morton, y pianydd jazz chwedlonol, yn dod i’r New Theatre.
1929 Dyfodiad ‘ffilmiau llafar’ yn arwain at ragor o gystadleuaeth am gynulleidfaoedd.
1930 Robert Redford yn ymddeol fel rheolwr y theatr.
1931 Ailwampio adeilad y theatr er mwyn dangos ffilmiau, a’r theatr yn cael ei gosod ar brydlesau amrywiol – fel pictiwrs, theatr gerdd a theatr - tan 1935.
1935 Prince Littler yn prydlesu’r adeilad, ac yn mynd ati ar y cyd â’i reolwr William Henry Rousseau Youngman, i ddod â bywyd newydd i’r theatr gyda sioe adloniant ddwywaith y noson ac ambell sioe ysblennydd.
Mae’n ailgyflwyno traddodiad y pantomeim, gan ddechrau gydag Aladdin ym 1935, a ddenodd cynulleidfa honedig o 25,000 – diolch yn bennaf i bolisi o drefnu llond bysus i ddod i’r theatr.
1936 Robert Redford yn marw.
1939-1945 Y theatr yn cyflogi criw o warchodwyr tân am 2s 6c (12c) y noson yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ni chaewyd drysau’r New Theatre yn ystod y rhyfel, a chafwyd perfformiadau gan sêr fel Vera Lynn a Tommy Handley (o’r gyfres radio hynod boblogaidd ITMA = It’s That Man Again!)
Prince Littler yn cael ei benodi’n Gadeirydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Stoll Theatre Corporation.
1950-1962: Enwogion o Brydain a thramor yn ymddangos ar lwyfan y New Theatre, gan gynnwys Rose Murphy, Billy Daniels, Slim Whitman, Frankie Vaughan ac un o frodorion y ddinas - Shirley Bassey.
1952 Cenedlaethau o bobl wrth eu boddau gyda sioe Stan Laurel a Oliver Hardy a’u comedi slapstic unigryw, a hwythau bellach dros drigain oed.
1954 Opera Cenedlaethol Cymru yn mabwysiadu’r New Theatre fel ei gartref newydd.
1956 Teulu Redford yn cytuno i werthu’r New Theatre i Stoll Theatres Corporation Cyf am £20,000.
Y New Theatre yn llwyfannu’r perfformiad Cymreig cyntaf o Under Milk Wood gan Dylan Thomas.
1961 A’r theatr mewn mwy o dwll ariannol, Prince Littler yn cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Dinas Caerdydd, er mwyn dymchwel y theatr a chodi swyddfeydd yn ei lle. Bu gwrthwynebiad mawr i hyn, yn enwedig gan grŵp ‘Theatre Now’, sy’n cynnwys sawl actor o Gymru.
Y cyngor yn gwrthod cynlluniau Littler, ond mae’n apelio – hyn yn methu, ond Syr Derek Walker Smith AS (ar ran Stoll Corporation) yn awgrymu bod cyngor y ddinas yn mynd ati i brynu’r theatr.
Yn y cyfamser, y cyngor yn cael ei annog i gyhoeddi gorchymyn i atal y theatr rhag cael ei defnyddio fel unrhyw beth arall ond theatr.
Ym mis Medi, Littler yn derbyn cynnig am y theatr gan Mecca Cyf.
1963 Cyngor Sir Caerdydd yn trafod prydlesu’r adeilad am saith mlynedd, ar rent o £5,750 y flwyddyn. Ffurfio Ymddiriedolaeth y New Theatre dan gadeiryddiaeth Syr Sir James Collins, i reoli’r theatr.
23 Medi: Y New Theatre yn ailagor gyda Chwmni Opera Cymru.
1963–1966 Rhaglen safonol dros ben, gan gynnwys dau ymweliad gan y National Theatre, tymhorau o glasuron gan y Royal Ballet a’r Festival Ballet, perfformiad D’Oyly Carte o operetas Gilbert a Sullivan, première byd-eang o The Homecoming gan Harold Pinter, sioeau adloniant gyda Tommy Cooper, cyngherddau pop yn cynnwys Tom Jones, a’r pantomeim wrth gwrs.
1965 Sefydlu’r Cardiff New Theatre Society er mwyn sbarduno diddordeb pobl yn y theatr a chynyddu nifer y mynychwyr rheolaidd o bob oed a chefndir.
1966 Penodi Cyngor Rheoli Ymddiriedolaeth y Theatr am dair blynedd, gan gynnwys cynrychiolaeth o aelodau o gyngor y ddinas ac o wahanol elfennau o fywyd diwylliannol Cymru.
1969 Ar ôl chwe blynedd o weithgareddau llwyddiannus, Cyngor Dinas Caerdydd yn prynu’r theatr a’i rhoi yn nwylo’r Ymddiriedolaeth. Mae’n costio £104,000 i’w phrynu, gan gynnwys £40,000 o gymhorthdal gan Gyngor y Celfyddydau ar yr amod fod £100,000 yn cael ei wario ar adnewyddu a moderneiddio’r theatr. Y Swyddfa Gymreig hefyd yn darparu benthyciad o £64,000.
Gŵr ifanc 24 oed o’r enw Martin Williams yn dod yn Weinyddwr y Theatr.
1970 Cau’r theatr ym mis Gorffennaf ar gyfer gwaith adnewyddu, gan gynnwys gosod system awyru, adeiladu pwll cerddorfa newydd, gosod seddi newydd ledled yr awditoriwm, moderneiddio’r ystafelloedd gwisgo a system oleuo newydd. Bellach, dyma un o’r theatrau â’r adnoddau gorau y tu allan i Lundain.
1971 13 Medi: Y theatr yn ailagor gyda chynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o Falstaff gan Verdi.
1972-3 Cyfrifon y theatr yn dangos bod y dyledion bron wedi’u haneru.
1976 Y gweinyddwr Martin Williams yn cyfarwyddo cynhyrchiad mewnol o Toad of Toad Hall gyda llawer o actorion o Gymru, gan gynnwys y comedïwr Howell Evans yn y brif ran.
Gosod llwyfan newydd ym mis Awst.
1977 Marwolaeth drasig a chynamserol Martin Williams yn 32 oed; penodi Peter Lea fel olynydd iddo.
1982 Agor chwaer-ganolfan y New Theatre. Neuadd Dewi Sant yn prysur ennill ei lle fel un o’r neuaddau cyngerdd gorau yn Ewrop, gan ategu arlwy’r New Theatre ac yn cynnal y cyngherddau symffoni a’r sioeau un noson.
Ar y cyfan, fodd bynnag, cyfnod o lanw a thrai oedd dechrau’r 1980au i’r New Theatre, gan adlewyrchu cyflwr economaidd y wlad ar y pryd a’r prinder dramâu o safon. Rhai o uchafbwyntiau’r cyfnod yn cynnwys Rattle of a Simple Man (John Alderton a Pauline Collins), Deathtrap (Gordon Jackson), A Coat of Varnish (Peter Barkworth ac Anthony Quayle), Quartermaine’s Terms (Michael Williams), Barefoot in the Park (Peter Davison a Sandra Dickinson), Amadeus (Keith Michell) a Children of a Lesser God (Elizabeth Quinn).
1985 Judi Richards yn cael ei phenodi’n Rheolwr Gyfarwyddwr y New Theatre. Mae ganddi gysylltiadau hir a balch gyda’r lle - gan i’w thaid helpu i adeiladu’r theatr wreiddiol!
1986 Perfformiad cyntaf o Otello Verdi gan Gwmni Opera Cymru, sydd hefyd yn perfformio Cyfres y Fodrwy (Ring Cycle) Wagner yn ei chyfanrwydd am y tro cyntaf yng Nghymru.
Cyngor Dinas Caerdydd yn cymryd yr awenau’n llwyr, ac yn cyhoeddi cynllun o waith trwsio mawr.
1987/88 Y theatr ar gau am 12 mis wrth gael ei hadnewyddu.
1988 Cwmni Theatr Clwyd yn cyflwyno A Chorus of Disapproval gan Alan Ayckbourn.
Cynhyrchiad teithiol Peter Hall Company o Orpheus Descending gyda Vanessa Redgrave; cyn symud ymlaen i’r West End a Broadway.
1989 Perfformiad cyntaf Evita yng Nghymru.
1990 Richard Harris yn ymddangos yn Henri IV gan Pirandello.
Time and the Conways gan J B Priestley yn cynnwys actorion fel Joan Plowright, Julie Kate a Tamsin Olivier, wedi’u cyfarwyddo gan Richard Olivier.
Cynhyrchiad y National Theatre o Richard III yn cynnwys Ian McKellen (a welwyd yma fel Edward II a Richard II ym 1969, a Hamlet ym 1971).
1991 An Evening With Peter Ustinov wedi gwerthu’n llwyr am wythnos gyfan.
1993 Marti Caine yn dychwelyd i’r llwyfan ym mhantomeim Snow White eleni.
1994 Anthony Hopkins yn serennu yn fersiwn Cwmni Theatr Clwyd o August, addasiad o Uncle Vanya gan Chekov, sydd hefyd yn cynnwys Leslie Philips a merch Richard Burton, Kate.
1995 Vanessa Redgrave yn dychwelyd i Gaerdydd yn Antony and Cleopatra gan Shakespeare.
1996 Tymor i ddathlu hanner canfed pen-blwydd Cwmni Opera Cymru.
Cynhyrchiad arbennig i ddathlu pen-blwydd y New Theatre yn 90 oed yw Marlene gyda Siân Philips (bu Dietrich ei hun yma ym 1973).
1997 Cynhyrchiad clodwiw’r National Theatre o Cardiff East gan y dramodydd lleol Peter Gill — fel rhan o’r unig ymweliad y tu allan i Lundain.
A Delicate Balance gan Edward Albee, gyda Maggie Smith (wyneb cyfarwydd arall a chwaraeodd ran Desdemona gyda Laurence Olivier fel Othello ar ddiwedd y 1960au).
1998 Digwyddiad cyntaf ‘Youth Dance Summer School’ yn rhoi cyfle i bobl ifanc y de gydweithio â dawnswyr proffesiynol am wythnos, cyn perfformio eu cynhyrchiad eu hunain. Mae’r prosiect addysg allanol hwn yn dal ar waith heddiw.
Robert Lindsay yw Richard III yng nghynhyrchiad teithiol yr RSC.
1999 Penodi Susan Lewis yn rheolwraig y New Theatre.
2000 Clwyd Theatr Cymru yn cyflwyno addasiad llwyfan o driolegau grymus y nofelydd Alexander Cordell, ac yn perfformio’r tair drama ar yr un diwrnod.
Première Cymru o Art gan Yasmina Reza gyda Nigel Havers, Barry Foster a Roger Lloyd-Pack.
Cynnal cystadleuaeth ‘BBC Radio 2 Voice of Musical Theatre Competition’ yma am y tro cyntaf. Yr enillydd yw Laura Michelle Kelly, a aeth ymlaen i serennu yn sioe gerdd Mary Poppins yn y West End.
2001 Y National Theatre yn llwyddo i godi gwrychyn gyda’u cynhyrchiad dadleuol Mother Clapp’s Molly House.
2002 Julie Goodyear yn ymddangos yn La Cage aux folles, ac yn cyhoeddi ei bwriad i ailymuno â Coronation Street.
Lansio gwefan y theatr am y tro cyntaf.
The Play What I Wrote, gyda’r cast gwreiddiol, yn dod i Gaerdydd cyn codi pac am Broadway - a’r actor gwadd yw Charles Dance.
Y New Theatre yn rhan o ŵyl Ryngwladol Theatr Gerdd Caerdydd am y tro cyntaf .
2003 Cystadleuaeth BBC Canwr y Byd yn dod i’r New Theatre.
Cwmni Theatr Cymru yn cyflwyno’u cynhyrchiad agoriadol o Under Milk Wood, gyda Matthew Rhys.
Dechrau gwerthu tocynnau’r theatr ar y we am y tro cyntaf.
2004 Canolfan Mileniwm Cymru yn agor ei drysau. Ymddangosiad olaf Cwmni Opera Cymru yma cyn symud i’w cartref newydd yng Nghanolfan y Mileniwm—bron i 50 mlynedd ers ymddangosiad cynta’r cwmni yn y New Theatre.
Cwmni Theatr Cymru yn perfformio tair o ddramâu Shakespeare mewn un diwrnod ar ddiwrnod ola’r daith.
Y New Theatre yn dal i fynd o nerth i nerth, gyda chynulleidfaoedd mwy nag erioed.
Christopher Eccleston a Billie Piper, ynghyd â Simon Callow fel Charles Dickens, yn ffilmio rhan o bennod Doctor Who, The Unquiet Dead, yn y New Theatre (darlledwyd yng ngwanwyn 2005).
2005 A Man for All Seasons gan Robert Bolt, yn cynnwys Martin Shaw, yn dod i’r New Theatre cyn mynd ymlaen i’r West End.
Cwmni Theatr Cymru yn cyflwyno Hamlet, gyda fersiwn Cymraeg ohono ar rai nosweithiau.
2006 Gwaith adnewyddu mawr ar du allan yr adeilad yn barod ar gyfer dathlu canmlwyddiant y New Theatre ym mis Rhagfyr.
Première Caerdydd o sioe gerdd CATS yn para am 4 wythnos dros yr haf.
Pantomeim Jack & the Beanstalk yn llwyddiant ysgubol, gyda John Barrowman (Doctor Who, Torchwood)
2007 Galw mawr am docynnau ar gyfer fersiwn cwmni theatr Orbit o High School Musical
Seren Dallas, Linda Gray, yn ymddangos yn Terms of Endearment
Warren Mitchell yn y ddrama gomedi dwymgalon, Visiting Mr Green
2008 Tommy Steele yn actio’r brif ran am bythefnos yn y sioe gerdd ysblennydd, Doctor Dolittle
Y rociwr enwog Brian May o’r grŵp Queen yn gwneud ymddangosiad annisgwyl yn Hello, Dolly! ar 21 Mehefin

Robert Redford

Adeiladu’r New Theatre


Anna Pavlova

Vesta Tilley








![]()


Marlene Dietrich


![]()


