- Hafan
- Yn Ymddangos Nawr
- Beth Sy' Mlaen
- Sut i Archebu
- Ymunwch â’n Rhestr Bostio
- Ynglŷn â’r New Theatre
- Cymryd rhan
- Mynediad
Ydych chi'n mwynhau cymdeithasu gyda'ch cydweithwyr, yn perthyn i glwb, cymdeithas neu sefydliad, neu eisiau cwrdd â'ch ffrindiau neu'ch teulu o bryd i'w gilydd? Beth am ddod ynghyd i fwynhau'r profiad theatrig?
Mae'r New Theatre yn cynnig gostyngiadau hael i griw o 8 neu fwy ar gyfer y rhan fwyaf o berfformiadau (dyna chi lond dau gar). Os ydych chi'n rhan o griw mwy, yna mae croeso i fysiau bach a mawr eich gollwng a'ch codi ar garreg ein drws.
Fel archebwr grwpiau, fe gewch chi wasanaeth personol o'r ymholiad cychwynnol hyd at eich ymweliad â'r theatr. Cofiwch, mae'n fwy o hwyl mewn criw!
Dyma'r manteision:
* gyda chostau arlwyo
Archebwch eich parti drwy'r Swyddfa Docynnau neu'r Trefnydd Gwerthiannau Grwp, a threfnwch bopeth mewn un alwad ffôn.
Mae ein Trefnydd Gwerthiannau Grŵp, Chris Blackler, yn ei gwneud hi'n hawdd i chi drefnu ar gyfer criw. Ffoniwch Chris yn uniongyrchol ar 029 20 878 878 neu e-bostiwch cblackler@cardiff.gov.uk gyda'ch manylion cyswllt, gan gynnwys eich rhif ffôn yn ystod y dydd. Bydd Chris yn eich ffonio chi'n ôl wedyn.
Does dim byd yn haws na archebu i griw yn y New Theatre gyda Chris. Mae hi'n gyfeillgar a chroesawgar dros y ffôn, ac mae ganddi sgiliau gweinyddol heb eu hail. Mae'n bleser gweithio gyda hi, ac rwy'n credu ei bod hi'n rhan allweddol o'n tripiau ni. Mae hi hyd yn oed wedi dod atom i ddweud helo yn ystod yr egwyl!
Elizabeth Walsh, Culture Vultures
Cyfleusterau gwych i archebu ar gyfer grwpiau. Dwi heb gael fy siomi erioed wrth dderbyn tocynnau. Dylai cwmnïau ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i wobrwyo staff, ar gyfer nosweithiau lletygarwch i gwsmeriaid neu noson mâi;s wych i bawb. Llongyfarchiadau i staff y New Theatre am wasanaethau o'r radd flaenaf i gwsmeriaid.
Jan Grossett, Atradius