- Hafan
- Yn Ymddangos Nawr
- Beth Sy' Mlaen
- Sut i Archebu
- Ymunwch â’n Rhestr Bostio
- Ynglŷn â’r New Theatre
- Cymryd rhan
- Mynediad
Mae Neuadd Dewi Sant (agor mewn ffenestr newydd) a’r New Theatre yn cynnig llawer o wahanol fathau o becynnau nawdd i weddu i liaws o gwmnïau. Mae’r Tîm Noddi a Phartneriaeth yn arbenigo â chynnig Cyngor i fusnesau ynghylch y math mwyaf addas o nawdd gan greu pecynnau i gyd-fynd ag anghenion y cwmni.
Mae’r ddau leoliad yn croesawu rhai o gynyrchiadau a pherfformwyr gorau’r byd i Gymru, ac yn denu cynulleidfaoedd mawr yn gyson. Mae’r pecynnau wedi’u llunio gan gadw'r elfennau hyn mewn cof, gan alluogi noddwyr i gyrraedd y cyhoedd a chwmnïau eraill.
Er bod yna becynnau safonol, mae’r rhan fwyaf o drefniadau nawdd wedi’u seilio ar nodau ac amcanion cwmni penodol, gyda buddion sy’n adlewyrchu’r holl ofynion.
Cwmni unigol sy’n noddi perfformiad
Mae partneriaethau ar gael yn Neuadd Dewi Sant yn ystod Proms Cymru a’r Gyfres Cyngherddau Cerddorfaol. Datblygwyd y pecynnau i roi cyfle i gwmnïau gynnig lletygarwch yn y ddau ddigwyddiad pwysig yma.
Cynllun yw Mewn Nwyddau a gychwynnwyd i roi cyfle i gwmnïau gefnogi’r lleoliad trwy gynnig nwyddau, gwasanaethau neu gyngor.