Archebu tocynnau Ffrindiau y New Theatre Actifyddion Artistig Archif Ar-Lein Cardiff Council

Aelodaeth Gorfforaethol

I gynnig y cyfle i’r gymuned fusnes ddod yn bartner â dau o’r lleoliadau adloniant gorau yng Nghaerdydd, mae’r Tîm Noddi a Phartneriaeth wedi creu cynlluniau aelodaeth blynyddol sy’n addas i gwmnïau bach, canolig a mawr.

10 rheswm dros ddod yn aelod

Rydym yn awyddus i gynnig Adloniant Corfforaethol rhwydd i gwmnïau prysur!

Manteision Craidd

Cynigir y manteision hyn i bob Partner Corfforaethol

  • Blaenoriaeth ar gyfer defnydd corfforaethol yn cynnwys hyd at 6 tocyn ar gyfer sioeau poblogaidd a 3 rhaglen am ddim
    Cewch wybodaeth am y perfformiadau cyn i'r tocynnau fynd ar werth yn gyhoeddus
  • Cewch flaenoriaeth wrth brynu tocynnau i Staff a chael gostyngiad ar rai perfformiadau
  • Cyfle i rwydweithio gydag aelodau eraill
  • Caiff y cwmnïau gydnabyddiaeth yn y rhaglenni a'r llyfrynnau yn ystod y flwyddyn gefnogi
    Caiff rhyw 420,000 o lyfrynnau eu dosbarthu pob blwyddyn
  • Cyfleuster anfonebau tocynnau at ddefnydd corfforaethol
    Cwech anfoneb am yr holl docynnau a brynwch (at ddiben corfforaethol yn unig)
  • Cyfle i logi ystafell am ddim gyda'r nos a chyda gostyngiad yn ystod y dydd
    Gallwch logi ystafelloedd a defnyddio mannau corfforaethol am ddim er mwyn cynnig adloniant i westeion a derbyn gostyngiad yn ystod y dydd: sy’n ddelfrydol ar gyfer cyfweliadau, diwrnodau dysgu, cyfarfodydd yng nghanol y ddinas (os ydyw’r ystafelloedd ar gael). Cynigir pris arbennig ar gyfer llogi’r lleoliad ar gyfer seminarau/ciniawa.
  • Cyfleoedd E-farchnata i aelodau eraill trwy gydlynydd aelodaeth a chydnabyddiaeth i'r cwmnïau ar y wefan yn ystod eu blwyddyn gefnogi
  • Gostyngiad o 10% yn y Bwyty
    Bar a Chegin Laguna, Gwesty Park Plaza Caerdyff, Heol y Brodyr Llwydion - Gwesty Partner y New Theatre
  • Gostyngiad o 10% yn y Siop Anrhegion yn Neuadd Dewi Sant
    Ar agor bob dydd rhwng 10am a 4pm. Cyfle da i brynu anrhegion corfforaethol ar ôl y cyngerdd
  • Difyrru gwesteion yn y Clwb Rygbi Corfforaethol Pencampwriaeth y Chwe Chenedl (gemau adref yn unig)
    Cyfle gwych i gwmnïau ddifyrru eu gwesteion mewn clwb unigyw. Bydd bwffe a bar ar gael cyn y gêm am ostyngiad yn dechrau o £30.00 y pen yn ogystal â chost y bar Mae te'r prynhawn wedi'i gynnwys yn y pris rhaid cael 10 gwestai mewn grwp - ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu Nid yw'r pris yn cynnwys cost y tocynnau

Aelod Corfforaethol: £1,000 + TAW

Cynigion Croeso Ychwanegol

Difyrru Cleientiaid neu Wobrwyo'r Staff

  • Tocynnau am ddim achroeso ar gyfer 10 o westeion ar gyfer perfformiad yn Neuadd Dewi Sant neu'r New Theatre, â chyfle i brynu tocynnau ychwanegol a chroeso
  • Cyfle i brynu hyd at 10 tocyn ar gyfer perfformiadau yn Neuadd Dewi Sant a’r New Theatre
  • 5 rhaglen am

Un digwyddiad: £1,650 + TAW

Am £650 ychwanegol + TAW beth am ddifyrru cleientiaid neu wobrwyo staff

Am £65 + TAW y pen yn cynnwys tocyn, potel gwin a phryd bwyd 3-chwrs â choffi

Pris arferol £80 + TAW y pen

Tal Aelodaeth

Dewis 1 dull talu o’r dewis isod

  • Cyfleuster Anfoneb Aelodaeth
    Anfoneb am gost yr aelodaeth
  • Cyfle i gynnig rhodd cymorth
    Mae'r Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig yn cefnogi'r rhaglen addysg a chymunedol.
    Mae'r Tîm Noddi a Phartneriaeth yn codi arian drwy roddion gan sefydliadau elusennol ac yn cynnig y cyfle i chithau gyfrannu hefyd