Cyfleoedd Busnes

New Theatre and St David's Hall logos

Gadewch i ni eich diddanu!

Bob blwyddyn byddwn yn croesawu cynulleidfaoedd o dros filiwn o bob cwr o'r DU.

Wedi’u lleoli mewn dau o leoliadau gorau Cymru, mae’r Tîm Noddi a Phartneriaeth yn arbenigo mewn creu a chynnal partneriaethau llwyddiannus â'r gymuned fusnes, gan gynnig gwasanaeth heb ei ail yn amgylchedd neilltuol Neuadd Dewi Sant a'r New Theatre.

Gall partneriaeth fod yn gaffaeliad i chi yn y gwaith o hyrwyddo'ch cwmni a diwallu'ch nodau a'ch amcanion.

Gall cefnogi'r Celfyddydau ddenu llawer mwy o sylw i'ch cwmni chi.

Ag amrywiaeth mor eang o berfformiadau, a chyweithiau addysg a chymuned mae yna ddigonedd o gyfleoedd i gyd-fynd ag anghenion eich cwmni. Mae pob pecyn Partneriaeth wedi'i deilwra er mwyn cyflawni amcanion eich cwmni chi.

Mae Nawdd, Aelodaeth Gorfforaethol a Lletygarwch ar gael yn y ddau leoliad. Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Tîm Noddi a Phartneriaeth - ffoniwch 029 2087 3392.

Ein Partneriaid Busnes

Hoffai'r New Theatre ddiolch i'r cwmnïau sy'n dilyn am eu cefnogaeth

Hard Rock Cafe Caerdydd (agor mewn ffenestr newydd)

Park Plaza Cardiff Hotel (agor mewn ffenestr newydd)

Cymdeithas Adeiladu'r Principality (agor mewn ffenestr newydd)

Mae'r New Theatre yn falch o gael y cwmnïau sy'n dilyn yn Aelodau Corfforaethol:

Lloyds TSB

Persimmon yng Nghymru

Cymdeithas Adeiladu'r Principality (agor mewn ffenestr newydd)

Grŵp y Post Brenhinol Cyf