- Hafan
- Yn Ymddangos Nawr
- Beth Sy' Mlaen
- Sut i Archebu
- Ymunwch â’n Rhestr Bostio
- Ynglŷn â’r New Theatre
- Cymryd rhan
- Mynediad

Mae ein Bwyty a Siop Goffi yng nghyntedd y Cylch ar agor rhwng 11.00am a 2.00pm ddydd Llun i ddydd Sadwrn, gyda dewis o de, coffi, teisennau a phrydau poeth ac oer amrywiol. Mae’r fwydlen yn newid bob dydd a’r prisiau’n rhesymol dros ben.
Galwch heibio am bryd bach hamddenol yng nghanol bwrlwm y ddinas.
Gall y New Theatre gynnig gwasanaeth arlwyo proffesiynol at ddant pawb, i ddiwallu pob math o anghenion lletygarwch.
Gallwn gynnig pob math o fwydlenni, o brydau bys a bawd i wleddoedd, oll gyda gwasanaeth bar llawn. Gallwn drefnu partïon plant hefyd, gyda dewis o fwydydd iach a blasus.
Mae lle i rhwng 30 a 120 o bobl yng nghynteddau’r Llawr Gwaelod, y Cylch a’r Cylch Uchaf – yn dibynnu ar yr achlysur. Gallwn drefnu lle ar gyfer y rhan fwyaf o ddigwyddiadau ar ôl y sioe gydol y flwyddyn, gan ddibynnu ar yr hyn sydd ar gael ar y pryd. Ffoniwch ni am fanylion.
Mae Ystafell Richard Burton yn lle preifat sy’n addas i rhwng 10 a 50 o bobl. Mae’n cynnig awyrgylch fwy agos-atoch i gael llymaid cyn, ac yn ystod egwyl y sioe.
Yn ystod mis Rhagfyr, mae Ystafell Richard Burton wedi’i thrawsnewid yn fwyty chwaethus sy’n cynnig pryd traddodiadol y Nadolig. Gallwch archebu byrddau ymlaen llaw ar gyfer y dydd neu’r nos, boed ar gyfer 2 neu hyd at 30 o bobl.
Am fwy o wybodaeth, neu i drafod eich anghenion arlwyo, ffoniwch ein Trefnydd Lletygarwch – Rachel Griffiths ar 029 2087 8751 neu e-bostiwch newtheatrecatering@cardiff.gov.uk
Manteisiwch ar ein gwasanaeth a’n blynyddoedd o brofiad arlwyo mewn awyrgylch arbennig, ac archebwch eich parti nesaf yn y New Theatre.