- Hafan
- Be Sy ’Mlaen Nesaf
- Beth Sy' Mlaen
- Sut i Archebu
- Ymunwch â’n Rhestr Bostio
- Ynglŷn â’r New Theatre
- Cymryd rhan
- Mynediad
Mae gan y tîm sy'n gyfrifol am y rhaglen addysg, cymuned a chynulleidfa boblogaidd yn y New Theatre a'n partneriaid yn Neuadd Dewi Sant enw a delwedd newydd bellach - A2: Actifyddion Artistig.
Ymgysylltu â'r byd addysg, y gymuned a'r gynulleidfaDrwy gael ein hysbrydoli gan raglenni amrywiol Neuadd Dewi Sant a'r New Theatre a'u defnyddio fel sbardun grymus ar gyfer ymdrechion creadigol, rydym yn ceisio annog pobl o bob oed i gymryd rhan a mwynhau gweithgarwch celfyddydol.


Clwb theatr am ddim sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc 16-25 oed weld dramâu gwych am brisiau anhygoel o rad.
I ymuno â re-act logo, llenwch wich manylion, datgysylltwch y slip a' i rhoi mewn blwch post. Byddwn yn cysyltu â chi yn fuana, pheidiwn â phoeni, ni fyddwn yn defnyddio'r wybodaeth i werthu ty haf i chi yn Scarborough neu eich ymrwymo i wasanaeth milwrol yn Aberdeen. Y cyfan wnawn fydd rhoi cyfle i chi fanteisioar gynigion da i chi.
Felly ewch i chwilio am feiro.
Morecambe
7 - 11 Medi
Shakespeare: The Man From Stratford
15 - 18 Medi
Inspector Morse: House of Ghosts
21 - 25 Medi
Lark Rise to Candleford
11 - 16 Hyd
Barkin'
19 - 23 Hyd
Carrie's War
9 - 13 Tach
Verdict
15 - 19 Chwe
The History Boys
15 - 19 Maw
Enw Cyntaf
Cyfenw
Cyfeirad
Yn ystod y tymor yn unig?
Cyfeiriad parhaol
Cod Post
Ffôn
Ffôn symudo
E-bost
Dyddiiad geni
Shakespeare: The Man From Stratford
Nos Iau 16 Medi
Yn syth ar ôl perfformiad 7.30pm, bydd cyfle i aelodau’r gynulleidfa aros yn eu seddi wrth i Simon Callow ddychwelyd i’r llwyfan i ateb cwestiynau am y perfformiad, egluro cefndir y cynhyrchiad, a’i ddiddordeb yn nramâu Shakespeare.
Bob dydd Mawrth o 14 Medi, 1pm -3pm
Bydd Actifyddion Artistig yn cynnal grŵp drama yng Nghanolfan Addysg Gymunedol Llaneirwg, yn seiliedig ar y cynhyrchiad o Carrie’s War yn y New Theatre. Bydd y grŵp yn gweithio ar sgript a syniadau newydd i greu perfformiad ar raddfa fach yng nghyntedd y New Theatre.
Profiad GwaithMae nifer cyfyngedig o leoliadau profiad gwaith ar gael i ddisgyblion 15 oed a hŷn yn nail ai’r New Theatre neu Nueadd Dewi Sant. Gwneir y dewis ar sail ffurflen gais a gweithdy.
Dadlwythwch ffurflen gais (agor mewn ffenestr newydd) neu ffoniwch ni am fwy o fanylion.
Dydd Mawrth 9 Tachwedd 2010
10.30am ac 1.30pm
Mae tîm Actifyddion Artistig wedi creu sioe wych gan ysgolion i ysgolion, sy’n cael ei llwyfannu yn Neuadd Dewi Sant, ein chwaer-ganolfan. Bydd plant ysgolion cynradd ac actorion proffesiynol yn cyflwyno perfformiad cerddorol unigryw sy’n trafod pryderon amgylcheddol lleol a byd-eang. Dyma benllanw prosiect trawsgelfyddydol ar y cyd rhwng pedwarawd Mavron a 12 o ysgolion cynradd y De, ar y thema Tidy! Iard chwarae daclus, ysgol daclus, tref daclus a phlaned daclus!
Rhaglen hyfforddiant dawns greadigol i'r ifanc a chyfleoedd perfformio dan ofal Actifyddion Artistig ar y cyd â Cenedlaethol Cwmni Dawns Cymru.
Pob tymor
Dosbarth techneg dawns wythnosol i bobl ifanc 14-19 oed sydd eisiau mynd ymlaen i gael hyfforddiant dawns proffesiynol. Mae’r cwrs yn costio £8 yr wythnos,a chynigir lleoedd trwy ragbrofion.
Cliciwch yma am ffurflen gais ar-lein ar gyfer y cyrsiau hyn.
Mae Actifyddion Artistig yn anfon gwybodaeth yn rheolaidd i ysgolion drwy'r post, felly os ydych chi'n athro sydd am gael gwybod mwy, cysylltwch â ni!
Rydyn ni ar Facebook – chwiliwch am Arts Active
A2:Arts Active | 029 2087 8570 | neu e-bost artsactive@cardiff.gov.uk | Anfonwch ffacs i 029 2087 8550
Neu ysgrifennwch at Actifyddion Artistig Neuadd Dewi Sant, Yr Aes, Caerdydd CF10 1AH