Gwasanaethau ar gyfer Pobl Anabl
Mae'r New Theatre yn croesawu pawb ac mae ganddi amrywiaeth eang o wasanaethau i wneud yn siwr eich bod yn gallu mwynhau ymweliad cysurus. Dywedwch am eich anghenion pan fyddwch yn archebu tocynnau a pheidiwch â phetruso gofyn i'r Rheolwr ar Ddyletswydd os oes angen rhywbeth arnoch pan fyddwch yn cyrraedd.
Mae lleoedd parcio ar gyfer yr anabl y tu all i Westy'r Parc a lle i ollwng pobl yn Heol y Brodyr Llwydion, lle mae mynedfa wastad i'r theatr.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bwysig am brisiau tocynnau i gwsmeriaid anabl a’u cymheiriaid / Cynorthwywyr Personol
Perfformiadau gyda Chymorth
Perfformiadau wedi'u dehongli yn
laith Arwyddion Prydain
Sadwrn 9 Hydref 2.30pm
Orbit Theatre: The Full Monty
Sadwrn 16 Hyderf 2.30pm
Lark Rise to Candleford
Sadwrn 27 Tachwedd 2.30pm
Scrooge
Iau 13 Ionawr 7.00pm
Sul 16 Ionawr 1.00pm
Mercher 19 Ionawr 2.00pm
Cinderella
Perfformiadau gyda disgrifiad
clywedol byw
Sadwrn 6 Tachwedd 2.30pm
Chess
Sadwrn 4 Rhagfyr 2.30pm
Scrooge
Iau 20 Ionawr 7.00pm
Sadwrn 22 Ionawr 2.30pm
Cinderella
Sadwrn 19 Chwefror 2.30pm
Verdict
Ar gyfer perfformiadau penodol sy'n cael eu dehongli neu'u disgrifio mae'r un pris cyffredin ar gyfer sedd unrhyw le yn y theatr i'r rhai sydd wedi'u cofrestru'n anabl sydd angen y gwasanaeth yma, ac un cymar yr un. Mae'r pris hwn bob amser yr un faint â'r pris sy'n cael ei hysbysebu ar gyfer y Cylch Uchaf. Cynigir y gostyngiadau arferol ar gyfer perfformiadau eraill fel sydd i'w weld yn y panel prisiau ar gyfer pob sioe.
Lawrlwytho llyfryn y tymor
Cliciwch yma i lawrlytho copi Print Bras o Lyfryn y Tymor mewn fformat pdf (Seasneg yn unig).
Sylwch y bydd angen cyswllt Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld y llyfrn. Am gopi am ddim o Adobe Acrobat Reader, cliciwch yma (agor mewn ffenestr newydd).
Ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn
- Mae mynedfa wastad ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn i'r Swyddfa Docynnau, toiled i'r anabl a lle i gadeiriau olwyn wrth ochr sedd cymar yn Rhes V y Llawr Gwaelod. Mae'r seddau hyn ar gael am bris isel bob amser.
- Mae un neu ddau o leoedd yn nhu blaen seddau'r llawr gwaelod hefyd i rai sy'n gallu symud heb gymorth i'r gadair risiau pe bai angen gwagio'r theatr mewn argyfwng. Mae'r lleoedd hyn ond yn addas i bobl â chadeiriau olwyn gwthio. Os ydych chi wedi archebu'r seddi hyn, ac yn defnyddio cadair olwyn electronig, gallwn gyflenwi cadair olwyn wthio i chi. Siaradwch gyda staff y Swyddfa Docynnau am hyn.
- Gellir archebu tocynnau dros y ffacs hefyd trwy ffacsio Caerdydd 029 2087 8879.
- Os ydych yn defnyddio cadair olwyn a'ch bod am eistedd mewn sedd gyffredin, cysylltwch ag Adran Blaen y Tŷ flaen llaw trwy ffonio (029) 2087 8790 neu e-bostio ntmailings@cardiff.gov.uk Ymddiheurwn na fydd hyn bob amser yn bosib oherwydd y galw am docynnau a rhesymau diogelwch.
Ar gyfer pobl â nam ar eu clyw
- Rydym wedi gosod system sain is-goch yn yr awditoriwm i helpu cynulleidfaoedd i glywed perfformiadau'n well neu ddilyn y disgrifiadau sain. I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, mae angen ffôn clust ysgafn arnoch, ac maent ar gael yn swyddfa Rheolwr Blaen y Tŷ, ym mar y llawr gwaelod. Mae'r New Theatre yn gofyn am flaendal o £5 wrth fenthyca ffonau clust. Cewch yr arian yn ôl wrth ddychwelyd y ffôn clust â'r batri yn ddiogel. I osgoi cael eich siomi, ffoniwch 029 2087 8790 ymlaen llaw er mwyn archebu'ch ffôn clust.
- Mae nifer o berfformiadau yn cael eu dehongli yn Iaith Arwyddion Prydain.
Ar gyfer pobl â nam ar eu golwg
- Rydyn ni hefyd yn cynnig disgrifiadau clywedol byw o rai sioeau, trwy gyfrwng system sain is-goch a ffonau clust bach. Mae'r New Theatre yn gofyn am flaendal o £5 wrth fenthyca ffonau clust. Cewch yr arian yn ôl wrth ddychwelyd y ffôn clust â'r batri yn ddiogel. I osgoi cael eich siomi, ffoniwch 029 2087 8790 ymlaen llaw er mwyn archebu'ch ffôn clust.
- Mae rhaglenni mewn print bras ar gael os gofynnir amdanynt ar gyfer y rhan fwyaf o'r sioeau. Croesewir cwn tywys ym mhob rhan o'r New Theatre a gellir darparu ar eu cyfer.
- I gael gwybod am ddigwyddiadau penodol a gwybodaeth gyffredinol am ein cyfleusterau anfonwch eich enw a'ch cyfeiriad i'r Adran Farchnata a byddwn yn ychwanegu'ch enw at ein rhestr bostio.
- Mae'r llyfryn hwn a gwybodaeth arall ar gael yn rhad ac am ddim mewn print bras, mewn braille, ac ar gasét sain.
Gellir cael copïau oddi wrth y Swyddfa Docynnau neu gellwch gysylltu â'r Adran Farchnata trwy ffonio Caerdydd 029 2087 8887.
Lawrlwythwch ein Canllawiau Mynediad
Mae Canllaw Mynediad manwl ar gyfer pobl anabl a’u cymdeithion ar gael i’w lawrlwytho fel PDF neu ffeil Word (addas ar gyfer darllenwyr sgrin). Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth am sut i gyrraedd y New Theatre a sut i ddod o hyd i’ch ffordd o amgylch ar ôl cyrraedd.
FERSIWN PDF
FERSIWN MS WORD
Mae croeso i chi ffonio 029 2087 8797 neu e-bostio ntmailings@cardiff.gov.uk os oes gennych unrhyw awgrymiadau ynglyn â’n Canllaw Mynediad.