- Hafan
- Yn Ymddangos Nawr
- Beth Sy' Mlaen
- Sut i Archebu
- Ymunwch â’n Rhestr Bostio
- Ynglŷn â’r New Theatre
- Cymryd rhan
- Mynediad
Yma, gallwch chwilio am sioeau'r gorffennol yn ôl enw, math o sioe, dyddiad y perfformiad neu brif aelod y cast.

I chwilio drwy ein harchif, nodwch eich meini prawf chwilio isod.
I chwilio'n fwy cyffredinol, defnyddiwch un o'r meysydd chwilio'n unig; defnyddiwch gyfuniad o feysydd chwilio i chwilio'n fwy manwl.
Er enghraifft, i chwilio am bob cynhyrchiad o Peter Pan, teipiwch "Peter Pan" yn y blwch Cynhyrchiad. I chwilio am bob cynhyrchiad o Peter Pan yn 2006, dewiswch 2006 o'r gwymplen Blwyddyn hefyd. Neu, os hoffech chi weld pryd ymddangosodd Laurence Olivier yn y New Theatre, teipiwch "Laurence Olivier" yn y blwch Seren.
Rydyn ni'n chwilio am ragor o wybodaeth i'w hychwanegu at yr archif bob amser. Os oes gennych chi raglen sioe neu daflen ar gyfer sioe o'r gorffennol nad yw'n ymddangos yn yr archif, a fyddech cystal â'i hanfon (neu lungopi) i: Archif y New Theatre, y New Theatre, Heol y Parc, CAERDYDD CF10 3LN. A fyddech chi cystal â chynnwys amlen â chyfeiriad a stamp os hoffech i ni ddychwelyd y gwreiddiol atoch.
Mae'n hanfodol bod blwyddyn y sioe ar yr eitem neu wedi'i nodi ar ddarn o bapur ar wahân.
Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw gamgymeriadau yn yr archif anfonwch e-bost at y cyfeiriad hwn.
Nodwch fod Archif Ar-lein y New Theatre yn brosiect parhaus sy'n cael ei ddiweddaru'n gyson. Efallai na fydd gwybodaeth rydych chi'n chwilio amdani yn yr archif eto.